Cymorth Ariannol / Financial help

Gweler isod neges gan CBSW / See below message from WCBC

Mae cymorth ariannol ar gael i fwy o ddysgwyr yn Wrecsam

O fis Medi, bydd mwy o ddysgwyr yn Wrecsam yn derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol. P’un ai fod hynny’n gymorth gyda gwisg ysgol a chostau offer drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, prydau ysgol am ddim ar gyfer holl ddisgyblion derbyn Wrecsam neu brydau ysgol am ddim i’r holl oedrannau hynny sy’n gymwys. 

Felly, gyda’r tymor newydd ar ein gwarthaf rydym yn annog  rhieni i wneud cais am y cymorth sydd ganddynt hawl iddo.

Ydi eich plant chi’n derbyn prydau ysgol am ddim?

Os ydi eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim efallai bod gennych hawl hefyd i gymorth ychwanegol trwy’r Grant Datblygu Disgyblion, sydd yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer iwnifform, offer chwaraeon a dyfeisiadau. I gael mynediad i gynllun eleni ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/service/grant-datblygu-disgyblion

Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid yn y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni efallai y bydd gan Wrecsam gefnogaeth ar eich cyfer.  I wirio os ydych yn gymwys ai peidio am Brydau Ysgol am Ddim, ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/service/prydau-ysgol/prydauysgolamddim. Os ydych yn gymwys efallai y byddwch hefyd yn gymwys am Grant Datblygu Disgyblion

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim rwy’n eich annog i ymweld â’n gwefan ac i wneud cais. Os yw eich cais yn llwyddiannus efallai y byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i Grant Datblygu Disgyblion sy’n gam pwysig i atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod nhw’n gymwys i gysylltu â ni er mwyn cefnogi rhieni a dysgwyr trwy gydol y flwyddyn ysgol.”

Prydau ysgol am ddim i holl blant oedran Derbyn

Bydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael eu cyflwyno i holl ddysgwyr cynradd yng Nghymru dros y 12-18 mis nesaf.

I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosib, bydd yr holl blant yn Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o fis Medi yma ymlaen.

Os ydi eich plentyn yn dechrau Derbyn y flwyddyn ysgol hon, mi fyddan nhw’n derbyn prydau am ddim yn awtomatig. OND rydym yn eich annog i wirio ar ein gwefan rhag ofn eich bod yn gallu cael mynediad i fwy o gymorth i’ch plentyn. 

 

Financial help available for more learners in Wrexham

From September, more learners in Wrexham will receive additional financial support. Whether it’s help with school uniform and equipment costs through the Pupil Development Grant, free school meals for all of Wrexham’s Reception class pupils, or free school meals for all ages to those eligible.

So, as the new term approaches, we are urging parents to apply for the support they’re entitled to.

Does your child already receive free school meals?

If your child currently receives Free School Meals, you may also be entitled to additional help through the Pupil Development Grant, which includes financial support for uniform, sports equipment and devices. To access this year’s scheme visit https://www.wrexham.gov.uk/service/pupil-development-grant-pdg

Has your financial situation changed in the last year?

If your child is not currently receiving Free School Meals, but your circumstances have changed this year, Wrexham might have support available for you. To check if you are eligible for Free School Meals, visit  Free School Meals form. If you are eligible, you may also be able to receive the Pupil Development Grant.

Cllr Phil Wynn, Lead Member for Education, said: “If you feel you may be eligible for Free School Meals, I urge you to visit our website and apply. If your application is successful, may also be able to access the Pupil Development Grant, which is an important step in stopping money getting in the way of children’s education. We urge anyone who feels they are eligible to get in touch with us to support parents and learners through the school year.”

Free school meals for all reception-aged children

Universal Free School Meals will be rolled out to all primary learners in Wales over the next 12-18 months.

To help the youngest learners as soon as possible, all children in Reception will receive Free School Meals from this September.

If your child starts Reception this school year, they will receive their free meal automatically. BUT we urge you to complete the Free School Meals form on our website in case you are able to access further help for your child.