Ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd, hoffem eich hatgoffa o bwysigrwydd archebu cinio i’ch plentyn cyn 8:00am bob dydd ar ParentPay (gellir gwneud am hyd at pythefnos o flaenllaw). Mae hyn yn arbed llawer o amser addysgu gwerthfawr i staff yn y bore, yn eich gwneud chi’n ymwybodol o unrhyw newidiadau i’r fwydlen, ac yn sicrhau fod y nifer cywir o brydau yn cael eu coginio rhag creu gwastraff bwyd di angen.
Wrth ddewis cinio a wnewch chi os gwelwch yn dda sicrhau eich bod yn dewis cinio mae eich plentyn yn ei hoffi ac yn mynd i’w fwyta. Mae’r nifer o’r prydau a’u cynnwys yn cael eu coginio yn union yn ol yr archebion, felly nid oes bwyd sbar ar gael. Mae’n rhaid i staff y gegin weini beth sydd wedi cael ei archebu gan rieni i’w plant a nid ydym am weld unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd.
I’r rheiny sydd a phlant yn cychwyn am y tro cyntaf yn yr ysgol (Derbyn i Bl 6), byddwch yn derbyn manylion am sut i greu cyfrif ParentPay dros y dyddiau nesaf. Tan y byddwch wedi actifadu’r cyfrif, fe wnawn ni sortio archebu cinio ysgol i’ch plentyn.
At the beginning of a new school year, we’d like to remind you of the importance of pre ordering school lunches for your child using ParentPay before 8:00am every morning (this can be done up to a fortnight beforehand). This not only saves staff valuable teaching time in the morning but also helps make parents aware of any changes to the menu and helps ensure that the correct amount of food is prepared, thus cutting down on unnecessary food waste.
When ordering the school lunch could you please ensure that you choose a lunch that your child likes and is going to eat. The amount of meals being prepared and their content are cooked to the exact number of orders so there is no spare food left. The kitchen staff have to serve what has been ordered by parents for their child and we don’t want to see any child going without food.
For those with children starting at the school for the first time tomorrow (Reception to Year 6), you will receive details on how to set up a ParentPay account over the next few days. Until you have activated the account, we’ll sort out ordering a school dinner for your child.
Diolch am eich cydweithrediad / Thank you for your cooperation









