Ymaelodaeth Yr Urdd 2021/2022 – Urdd Membership 2021/2022

Disgyblion Blwyddyn 1 – Blwyddyn 6 / Year 1 – Year 6 pupils

Mae hi’n amser ymaelodi gyda’r urdd unwaith eto.
Gyda phethau yn dechrau mynd yn ôl i’r drefn arferol, rydym yn ffyddiog bydd yna modd cynnal mwy o weithgareddau’r urdd eleni yn enwedig yr eisteddfod yn Sir Ddinbych ym mis Mai.
Os yw eich plentyn yn dymuno ymaelodi, pris aelodaeth eleni (2021/22) ydy :
• Aeloadaeth unigol – £10.00
• £1 yn unig i’r rheiny sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim
• £25 i deulu o 3 neu fwy.
Mae’r Urdd yn gofyn i chi ymaelodi eich plentyn ar-lein gan ddefnyddio’r system newydd ‘Y Porth’ https://www.urdd.cymru/cy/ymuno/
Bydd angen i chi greu cyfri a phroffil o fewn Y Porth. Ar ôl creu cyfri, bydd modd i chi fwrw ati gydag aelodaeth yr Urdd, a gellir ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio neu newid manylion. (Ni fydd yr ysgol yn derbyn arian aelodaeth)
Bydd bathodyn am ddim i bawb fydd yn ymaelodi a cherdyn gyda’r rhif aelodaeth (cadwch y rhif yn ddiogel).
Ni fydd y plant yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau fel yr isod os nad ydynt yn aelodau:-
1. Eisteddfod -cystadlaethau llwyfan, gwaith celf a chrefft a llenyddol.
2.Adran Iau – Cystadlu mewn gwahanol chwaraeon -pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, athletau, nofio a.y.y.b).

It’s time to join the ‘Urdd’ once again.
With things starting to go back to normal, we are confident that more of the Urdd’s activities can be held this year especially the eisteddfod in Denbighshire in May.
If your child wishes to join, this year’s membership price (2021/22) is:
• Individual membership – £ 10.00
• Only £1 for those eligible for free school meals support.
• £ 25 for a family of 3 or more.
This year the Urdd are asking you to sign up your child online using their new system ‘Y Porth’ at https://www.urdd.cymru/en/join/
You will need to create an account and profile within Y Porth. You will then be able to proceed with membership for 2021-22 and are able to return to ‘Y Porth’ at any time to check or update your details. (The school will not be receiving membership payments)
There will be a free badge for everyone who joins and a card with the membership number (keep the number safe).
The children will not be allowed to participate in activities such as the following if they are not members: –
1. Eisteddfod – stage competitions, art and craft and literary work.
2. Juniors – Compete in various sports – football, netball, rugby, athletics, swimming etc.