Ymarfer yn Eglwys San Silyn
Bydd plant yr adran Iau yn mynd i Eglwys San Silyn am y diwrnod i ymarfer ar gyfer y cyngherddau Nadolig ar y dyddiau isod:-
Blwyddyn 3 a 4 – Dydd Llun, Rhagfyr 11
Blwyddyn 5 a 6 – Dydd Mawrth, Rhagfyr 12
Bydd angen pecyn cinio arnynt ar y dyddiau yma os gwelwch yn dda.
PWYSIG – Os ydych yn bwriadu archebu pecyn o’r ysgol, mae’r gogyddes angen gwybod o flaen llaw faint i baratoi, felly mae’n hanfodol eich bod yn archebu pecyn drwy ParentPay cyn diwedd y dydd heddiw (6.12.23). Diolch.