Isod, fe welwch ddolen ar gyfer archebu tocynnau ar gyfer cyngherddau Nadolig dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 ar Rhagfyr 9fed am 10:00am a’r 10fed am 2:00pm. Ni fyddwn yn gofyn am arian am y tocynnau ond mae’n rhaid i ni wybod faint sydd yn mynychu er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at reolau tan a diogelwch yn neuadd yr ysgol.
I ddechrau, mi yden ni yn cyfyngu y tocynnau i ddau y plentyn. Sylwch os gwelwch yn dda mai cyfanswm o ddau yw hyn, nid dau y cyngerdd, felly
2 ar gyfer 09/12 neu 2 ar gyfer 10/12 neu 1 ar gyfer bob cyngerdd
Mae angen cwblhau y ffurflen isod erbyn 12:00pm, dydd Mawrth nesaf, Rhagfyr 3ydd os gwelwch yn dda. Os bydd unrhyw docynnau yn sbar yn dilyn hyn, byddwn yn gyrru manylion wythnos nesaf i chi ar sut i archebu mwy. Os gwelwch yn dda a wnewch chi beidio gofyn am docynnau ychwanegol i’r tan i ni yrru manylion am archebu mwy i chi.
Below there is a link to a form for ordering tickets for the Reception and Year 1 Christmas concerts that are at 10:00am on December 9th and 2:00pm on the 10th . We won’t be asking for money for the tickets, but there is a limit on how many people we can have in the hall so we need to know how many will be attending to ensure that we keep to the fire and safety regulations.
To begin with, we are restricting the tickets to two per pupil. Please note that this is a total of two tickets, not two tickets per concert:
either 2 tickets for 09/12 or 2 tickets for 10/12 or 1 for each concert
The form needs to be completed by 12:00pm, next Tuesday, December 3rd please. If there are any tickets left over after this, we will send you information on how to order more towards the end of next week. Could you please not ask for any extra tickets until we send you the details on ordering more.