Neges i’ch hatgoffa / Reminders

Bwyd Bore / Morning Snack

Fel y nodwyd yn y llythyr anfonwyd yr wythnos ddiwethaf, ni fyddwn yn darparu ffrwyth ar gyfer bwyd bore ar hyn o bryd, ond fe fydd llefrith am ddim yn parhau i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen.  Bydd angen i ddisgyblion ddod â’u ffrwyth / llysiau eu hunain ar gyfer bwyd bore.

As stated in the letter sent via email last week, we do not provide fruit for morning snack at present, but free milk will continue for Foundation Phase pupils.  Pupils will need to bring their own fruit / vegetables for morning snack.

 

Gollwng a Chasglu / Dropping Off and Collecting

Gofynnwn yn garedig i chi beidio dod ar safle’r ysgol cyn 8:45am pan yn gollwng eich plentyn / plant na chyn 3:10pm pan yn casglu eich plentyn / plant o’r ysgol.

We kindly ask that you do not come on the school premises before 8:45am when dropping your child / children or before 3:10pm when collecting your child / children from school.

 

Casglu Plant o’r Hwb (Blwyddyn 3 i 6) / Collecting Children from the Hub (Years 3 to 6)

Pan yn casglu eich plentyn / plant o’r hwb gweithwyr allweddol, a wnewch chi sicrhau eich bod yn dilyn y system un ffordd i adael safle’r ysgol yn hytrach na cherdded yn ôl i lawr y llwybr tuag at y ffordd.

When collecting your child / children form the key worker hub, please ensure that you follow the one way system to leave the school site rather than walking back down the path towards the road.

 

Diolch yn fawr.