Llongyfarchiadau mawr i rai o ferched blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth bêl-droed merched yr Urdd yn Aberystwyth. Roedd perfformiad y tîm yn wych. Llwyddodd y merched i ennill pob un gêm yn eu grŵp cyn ennill eu gêm yn rownd yr 8 olaf. Yn anffodus, colli oedd hanes y tîm yn y rownd cyn-derfynol. Diolch i chi ferched am eich ymddygiad, brwdfrydedd a’ch ymdrech yn ystod y dydd.
Congratulations to some of our year 5 and year 6 girls for representing the school at the Urdd’s girl’s football competition in Aberystwyth. The team’s performance was fantastic. The girl’s won every group game before winning their quarter final fixture. Unfortunately they lost in the semi-finals. Thank you girls for your behaviour, enthusiasm and effort throughout the day.