Casglu eich plentyn o’r ysgol / Collecting your child from school

Mae’n bleser croesawu mwy a mwy o blant i’r ysgol yn ddyddiol ac rydym yn edrych ymlaen at gael pob blwyddyn yn ôl yn fuan iawn.

Rydym yn adolygu gweithdrefnau’r ysgol yn gyson ers i ni ailagor.  Gyda mwy o blant wedi dychwelyd i’r ysgol, mae’n ddealladwy bod yr ysgol yn brysurach am 3:30 pm.  Er mwyn lleihau nifer y bobl ar dir yr ysgol am 3:30 pm, rydym wedi penderfynu creu ffenestr o 20 munud lle gallwch gasglu’ch plentyn o’r dosbarth.  Gan ddechrau heddiw, cewch gasglu’ch plentyn o’r dosbarth rhwng 3:10 pm a 3:30 pm.  Bydd plant sy’n mynd i’r Clwb ar ôl Ysgol yn aros yn y dosbarth tan 3:30 pm.

 

It is a pleasure welcoming more and more children back to school every day and we’re looking forward to having every year group back very soon.

We’re constantly reviewing procedures here at school after reopening.  With more children back in school, the school is understandably busier at 3:30 pm.  In order to decrease footfall at 3:30 pm, we’ve decided to create a 20 minute window in which you may collect your child from class.  Starting today, you may collect your child from class between 3:10 pm and 3:30 pm.  Children going to After School Club will remain in class until 3:30 pm.