At Sylw Rhieni Bl.6 / F.A.O Year 6 Parents

Gofynnwn yn garedig i bawb o flwyddyn 6 ddod yn eu gwisg Addysg Gorfforol i’r ysgol yfory, dydd Mercher, Mehefin 8fed.

Hefyd, hoffwn eich atgoffa fod angen i bob plentyn uwchlwytho llun o’u hunain ar gyfer llyfr atgofion Bl.6. Mae’n bosib gwneud hyn yn yr aseiniad ar ‘Google Classroom’ neu gellir e-bostio’r llun at yr athro / athrawes dosbarth.

Os ydych yn dymuno prynu llyfr, mae angen dod a £6.50 mewn amlen gydag enw a dosbarth eich plentyn arni a’i rhoi i’w athro/athrawes dosbarth.

We kindly ask that every year 6 pupil come to school in their P.E kit tomorrow, Wednesday, June 8th.

Also, we’d like to remind you that each pupil needs to upload a photo of themselves for the yearbook. They can do this via the assignment on ‘Google Classroom’ or by emailing it to their class teacher.

If you wish to order a yearbook, please place £6.50 (cash) in an envelope with your child’s name and class and give it to the class teacher.

Diolch yn fawr.