Aelodaeth yr Urdd 2020-2021 / Urdd Membership 2020-2021

Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o blant Ysgol Plas Coch wedi cymryd rhan ac elwa o weithgareddau amrywiol yr Urdd. Mae’r Urdd ar hyn o bryd yn wynebu sialens fawr ond maent yn dal i fod yno i blant a phobl ifanc Cymru. Os hoffech chi gefnogi’r Urdd, gall eich plentyn ymuno yn awr.

Bydd yr Urdd yn gwneud ei gorau i gefnogi disgyblion a chynnig gwasanaeth bywiog a pherthnasol dros y flwyddyn i ddod. Bydd ei darpariaeth eleni yn gyfuniad o’r digidol a digwyddiadau wyneb yn wyneb os a phan yn ddiogel i wneud hynny.

• Gallwch ymaelodi yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r ddolen hon:

https://www.urdd.cymru/cy/ymuno (Ni fydd yr ysgol yn derbyn arian aelodaeth eleni)

• Bydd pob aelod yn derbyn bathodyn aelodaeth arbennig a cherdyn post yn cadarnhau eu bod yn aelod o’r Urdd.

• Eleni, bydd angen bod yn aelod i gymryd rhan ym mhob un o weithgareddau’r Urdd.

• £9 yw aelodaeth eleni, heb unrhyw gynnydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

• Maent yn cynnig aelodaeth unigol ac Aelodaeth Teulu, i deuluoedd gyda thri neu fwy o blant, am £25.

Ar hyn o bryd, does dim penderfyniad wedi gwneud os fydd yr Urdd yn cynnal Eisteddfod. Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae’r Urdd yn ei chynnig yn ystod y cyfnod yma, ewch i’w gwefan.

 

Over the years a large number of children at Ysgol Plas Coch have taken part and benefited from the Urdd’s various activities. The Urdd is currently facing a major challenge, but they are still there for the children and young people of Wales. If you would like to support the Urdd, your child can join now.

The Urdd will do its best to support pupils and offer a lively and relevant service over the coming year. The services this year will be a combination of digital and face-to-face events, if and when it is safe to do so.

· It is possible to join directly online by using this link:

  https://www.urdd.cymru/en/join (The school will not be receiving membership payments this year)

· Each member will receive a special membership badge, and a postcard confirming their membership of the Urdd.

· This year, you will need to be a member to take part in all Urdd activities.

· This year’s membership is £9, with no increase later in the year.

· The Urdd offer individual membership and Family Membership, for families with three or more children, at £25.

At present, no decision has been made on whether the Urdd will hold an Eisteddfod. For more information on what the Urdd offers during this time, visit their website.

 

Diolch.