I sylw rhieni Bl 1 a 2 / FAO Years 1 and 2
Am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, mae rhaid i ni newid dyddiad cyngerdd Nadolig nos Bl 1 a 2. Bydd hwn nawr nos Fawrth, Rhagfyr 8fed yn lle nos Fercher y 9fed. Bydd yn cychwyn am 5:30pm er mwyn i bawb fedru gadael ar y diwedd cyn i ormod o draffig gasglu tu allan yr ysgol gan fod Wrecsam yn chwarae ar Y Cae Ras. Ni fydd newid i gyngerdd y prynhawn sydd hefyd ar yr 8fed.
For reasons beyond our control, we will have to change the date of Years 1 and 2’s evening Christmas concert. This will now be held on Tuesday, December 8th instead of Wednesday the 9th. It will begin at 5:30pm to give everyone enough time to leave at the end before too much traffic builds up outside the school as Wrexham have a football match that night. The afternoon concert will be as originally planned on the 8th.









