At Sylw Rhieni Blwyddyn 6 / F.A.O. Year 6 Parents

Annwyl Rieni / Dear Parents,

Fel rhan o ddathliadau gadael Blwyddyn 6, cytunwyd yn y cyfarfod rhieni diwethaf i greu llyfr atgofion ar gyfer y plant. Bydd rhain yn rhywbeth i’w trysori, ac i gofio am eu hamser yn Ysgol Plas Coch. Cost llyfr yw £6.50, i gynnwys llun unigol o bob plentyn, disgrifiad o’u diddordebau, hoff atgofion a’r hyn maent eisiau bod yn y dyfodol. Bydd amrywiaeth o luniau yn cael eu hychwanegu gan yr ysgol.

Os dymunwch brynu llyfr, rhowch £6.50 (arian parod) mewn amlen gydag enw a dosbarth eich plentyn a’i roi i’w athro/athrawes dosbarth erbyn Dydd Mercher 8fed o Fehefin.

As part of the Year 6 leavers celebrations, it has been decided at the parents meeting to go ahead with a yearbook for the children. These are a lovely keepsake for the children to remember their time at Ysgol Plas Coch. The cost of the yearbook is £6.50 each, it will include a photo of each child, their hobbies/interests, favourite memories, and what they want to be when they’re older, along with some photos from their time at Ysgol Plas Coch.

If you would like to order a yearbook, please place £6.50 (cash) in an envelope with your child’s name and class and give it to the class teacher by Wednesday, 8th June. 

Diolch.