Cofio / Rememberance

Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol.  Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol.  Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100.  Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl.  Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.

Mwy/More

CRhA / PTA

Neithiwr, cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CRhA Ysgol Plas Coch a phenodwyd Pwyllgor newydd am y flwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn …

Mwy/More