Hyfforddiant Diffibrilydd / Defibrillator Training

Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Pêl-droed Ieuenctid Rhosddu United am wahodd staff yr ysgol i ymuno â nhw i dderbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilydd sydd ar wal y tu allan i’r ysgol.  Aeth Miss Rebecca Scott a Mr Geraint Jones ar yr hyfforddiant ond gobeithio na fydd angen defnyddio’r peiriant!  Diolch i’r clwb am gyd-weithio’n agos â’r ysgol ac i Tomos o Wasanaeth Ambiwlans Cymru am arwain yr hyfforddiant.

Mwy/More

Twrnament Pêl-rwyd / Netball Tournament

At sylw rhieni’r plant sydd wedi eu dewis i fod yn aleod o’r tîm pêl-rwyd i gystadlu yn y twrnament Dydd Mercher, 12/12/2018.

Bydd y bws yn gadael yr ysgol am 9:15 ac yn dychwelyd am 12:15. Bydd rhaid i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn gwisgo trwsus byr du, crys polo gwyrdd yr ysgol a thracwisg. Yn ogystal, bydd angen diod o ddŵr, bwyd bore iach a chôt.

Bydd angen i’ch plentyn adael i Miss Moreton wybod yfory os ydy hi’n gallu dod os gwelwch yn dda  

Diolch yn fawr,

Miss Moreton.

Mwy/More

Coeden Merched y Wawr / Merched y Wawr’s Tree

Diolch yn fawr iawn i Gangen Wrecsam Merched y Wawr am eu rhodd arbennig o goeden i’r ysgol.  Mae’r gangen yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac fel rhan o’u dathliadau yn cyflwyno coeden i bob un o ysgolion Cymraeg Wrecsam.  Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus!

Mwy/More

Siwmperi Nadolig 6/12/18 Christmas Jumpers

Gan fod staff y gegin yn gweini cinio Nadolig Dydd Iau yma, Rhagfyr 6ed, mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol. Gall plant y Feithrin wisgo siwmper Nadolig hefyd, er nad ydynt yn gallu cael cinio ysgol.  Nid ydym yn gofyn am gyfraniad i wneud hyn.

Ar ran holl blant yr ysgol, hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff y gegin am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn.

Mwy/More

Sanau Od / Odd Socks

Diolch i’r plant a’r staff am gefnogi’r ymgyrch sanau od heddiw er mwyn dathlu’r ffaith fod pawb yn wahanol.  Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r diwrnod ac am gyflwyno gwasanaeth ar sut i drin eraill â pharch.

Mwy/More

Sanau Od / Odd Socks

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27ain, rydym ni, Cyngor Ysgol Plas Coch, yn cyflwyno gwasanaeth i’r ysgol gyfan.  Yn ein gwasanaeth rydym am ddathlu bod pawb yn wahanol ac am bwysleisio’r pwysigrwydd o barchu gwahaniaeth.

Er mwyn ein helpu ni yn y gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r holl ddisgyblion ddod i’r ysgol Dydd Mawrth, Tachwedd 27ain yn gwisgo sanau od! Maent dal angen gwisgo eu gwisg ysgol ond gyda sanau od! Diolch am eich cyd-weithrediad. 

Mwy/More

Bws o Cadbury World / Coach from Cadbury World

Mae’r ffyrdd o Birmingham yn brysur ac mae’r bws yn symud yn araf mewn traffig trwm.  Nid yw’r plant yn debygol o gyrraedd yr ysgol cyn  6:00pm.  Rydym yn siwr o’ch diweddaru ar yr ap neu ar Facebook os yw’r amser yn newid.

Mwy/More