Bocsys T4U Boxes

Mae’r bocsys T4U wedi dechrau ar eu taith i ddwyrain Ewrop. Diolch i chi am gefnogi’r elusen. Rydym yn derbyn bocsys yn yr ysgol tan ddydd Gwener. 

Mwy/More

The Trials of Cato

Pleser oedd croesawu un o gyn-ddisgyblion Ysgol Plas Coch yn ôl i’r ysgol y bore ‘ma.  Daeth Robin Jones a gweddill y band The Trials Of Cato, William Addison a Tomos Williams, i ddiddanu’r disgyblion a’r staff cyn ateb llwyth o gwestiynau diddorol.  Syniad llysgenhadon iaith yr ysgol oedd gwahodd band sy’n defnyddio’r Gymraeg i’r ysgol er mwyn hyrwyddo’r iaith a cherddoriaeth Gymraeg.  Dewis amlwg oedd The Trials of Cato gan fod dau o’r tri o’r ardal, a Robin, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl.  Cafodd y llysgenhadon gyfle i gynnal cyfweliad â’r band er mwyn eu holi am bwysigrwydd yr iaith yn eu llwyddiant.  Diolch yn fawr i The Trials of Cato.

Mwy/More

Ffair Nadolig / Christmas Fair

Diolch i chi am gefnogi Ffair Nadolig yr ysgol heno.  Am ddechrau gwych i gyfnod prysur yr Wŷl.  Diolch o galon i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am y gwaith trefnu a pharatoi ac i rai o ddisgyblion yr ysgol am helpu.

Mwy/More

Pawen Lawen – BBC Plant Mewn Angen / BBC Children in Need

Braf oedd croesawu Pudsey ac Aled Hughes o BBC Radio Cymru i’r ysgol y bore ‘ma.  Daeth y ddau yma wedi i Ela o Flwyddyn 4 anfon e-bost at Aled Hughes yn ei wahodd i’r ysgol i gasglu pawennau llawen.  Casglodd 333 Pawen Lawen gan blant yr ysgol fel rhan o’i ymgyrch BBC Plant Mewn Angen eleni.  Mae mwy o wybodaeth am ei ymgyrch yma:

https://www.bbc.co.uk/programmes/p06p27b1

Diolch i Ela, Aled Hughes ac wrth gwrs, Pudsey.

Cofiwch fod y plant yn gallu cefnogi BBC Plant Mewn Angen yfory:

Plant Mewn Angen 16.11.2018 Children In Need

Mwy/More

Cofio / Rememberance

Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol.  Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol.  Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100.  Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl.  Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.

Mwy/More