Cofio / Rememberance

Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol.  Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol.  Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100.  Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl.  Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.

Mwy/More

CRhA / PTA

Neithiwr, cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CRhA Ysgol Plas Coch a phenodwyd Pwyllgor newydd am y flwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn …

Mwy/More

Disgo CRhA / PTA Disco

Neges gan y CRhA / Message from the PTA:

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer y Disgo Ysgol.

Ydych chi’n rhydd ar nos Fawrth 23ain Hydref rhwng 5-8?

Rydym yn eithriadol o isel ar wirfoddolwyr i redeg y Disgo. Mae angen help i werthu melysion / paentio wynebau / tatŵau glitter. Os ydych ar gael hyd yn oed os mai dim ond am awr pan fydd eich plentyn yn y Disgo yna cysylltwch â ni naill ai trwy dudalen Facebook y CRhA neu Claire Evans 07753437788.

Mwy/More