Sanau Od / Odd Socks

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27ain, rydym ni, Cyngor Ysgol Plas Coch, yn cyflwyno gwasanaeth i’r ysgol gyfan.  Yn ein gwasanaeth rydym am ddathlu bod pawb yn wahanol ac am bwysleisio’r pwysigrwydd o barchu gwahaniaeth.

Er mwyn ein helpu ni yn y gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r holl ddisgyblion ddod i’r ysgol Dydd Mawrth, Tachwedd 27ain yn gwisgo sanau od! Maent dal angen gwisgo eu gwisg ysgol ond gyda sanau od! Diolch am eich cyd-weithrediad. 

Mwy/More

Bocsys T4U Boxes

Mae’r bocsys T4U wedi dechrau ar eu taith i ddwyrain Ewrop. Diolch i chi am gefnogi’r elusen. Rydym yn derbyn bocsys yn yr ysgol tan ddydd Gwener. 

Mwy/More

The Trials of Cato

Pleser oedd croesawu un o gyn-ddisgyblion Ysgol Plas Coch yn ôl i’r ysgol y bore ‘ma.  Daeth Robin Jones a gweddill y band The Trials Of Cato, William Addison a Tomos Williams, i ddiddanu’r disgyblion a’r staff cyn ateb llwyth o gwestiynau diddorol.  Syniad llysgenhadon iaith yr ysgol oedd gwahodd band sy’n defnyddio’r Gymraeg i’r ysgol er mwyn hyrwyddo’r iaith a cherddoriaeth Gymraeg.  Dewis amlwg oedd The Trials of Cato gan fod dau o’r tri o’r ardal, a Robin, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl.  Cafodd y llysgenhadon gyfle i gynnal cyfweliad â’r band er mwyn eu holi am bwysigrwydd yr iaith yn eu llwyddiant.  Diolch yn fawr i The Trials of Cato.

Mwy/More

Ffair Nadolig / Christmas Fair

Diolch i chi am gefnogi Ffair Nadolig yr ysgol heno.  Am ddechrau gwych i gyfnod prysur yr Wŷl.  Diolch o galon i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am y gwaith trefnu a pharatoi ac i rai o ddisgyblion yr ysgol am helpu.

Mwy/More

Pawen Lawen – BBC Plant Mewn Angen / BBC Children in Need

Braf oedd croesawu Pudsey ac Aled Hughes o BBC Radio Cymru i’r ysgol y bore ‘ma.  Daeth y ddau yma wedi i Ela o Flwyddyn 4 anfon e-bost at Aled Hughes yn ei wahodd i’r ysgol i gasglu pawennau llawen.  Casglodd 333 Pawen Lawen gan blant yr ysgol fel rhan o’i ymgyrch BBC Plant Mewn Angen eleni.  Mae mwy o wybodaeth am ei ymgyrch yma:

https://www.bbc.co.uk/programmes/p06p27b1

Diolch i Ela, Aled Hughes ac wrth gwrs, Pudsey.

Cofiwch fod y plant yn gallu cefnogi BBC Plant Mewn Angen yfory:

Plant Mewn Angen 16.11.2018 Children In Need

Mwy/More